Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
2 Mawrth 2015
CLA490 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg
(Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei ailenwi yn Gyngor y Gweithlu Addysg gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r hen reoliadau a oedd yn berthnasol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac yn gwneud darpariaethau newydd i sefydlu a gweinyddu'r Cyngor.
CLA492 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn ailddeddfu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2770) gyda diwygiadau. Mae’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi a chynllun rhyddhad ardrethi dros dro. Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi dros dro yn rhedeg o 1 Ebrill 2015 hyd 31 Mawrth 2016 ac nid yw ond yn gymwys i gategorïau penodol o hereditament.